Cyfieithu
Sesiwn adolygu ar gyfer myfyrwyr U/UG Cymraeg iaith gyntaf:
Dydd Gwener 4 Mai 1-2pm
Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe
Cyfieithu (sesiwn adolygu ar gyfer y papur CY6)
Os ydych am gymryd rhan yn y fideogynhadledd, bydd rhaid i chi ddweud wrthym pa stiwdio yr ydych am ddefnyddio, a sicrhau ei bod ar gael. Os nad ydych yn gwybod pa un yw eich stiwdio leol, cysylltwch â Joanne Macdonald (ffôn 01792 513435, ffacs 01792 295851, e-bost j.f.macdonald@abertawe.ac.uk).
Darllenwch y canllawiau isod cyn cofrestru, gan eich bod, wrth gyflwyno'r ffurflen arlein hon, yn derbyn yr amodau cofrestru:
- Rhaid i aelod o'r staff gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn. Ni fyddwn yn derbyn cais gan fyfyriwr.
- Cwblhewch y ffurflen isod a phwyswch "cyflwyno" i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Os ydych yn cael unrhyw anhawsterau gyda'r ffurflen gofrestru arlein, cysylltwch â Joanne Macdonald (manylion cyswllt uchod.
- Byddwch yn derbyn neges ar y sgrîn yn dweud eich bod wedi cofrestru'n llwyddiannus. Fodd bynnag, ni ddylech gymryd yn ganiataol bod eich cais wedi’i dderbyn hyd nes i chi dderbyn e-bost oddi wrth Gweinyddydd Rhwydwaith Fideo Cymru.
- Byddwn yn gyrru canllawiau ar gyfer ymuno â'r gynhadledd a gwybodaeth pellach mewn e-bost pan fydd eich lle wedi'i gadarnhau.
Datganiad Gwarchod Data:
Ar gyfer yr achlysur hwn yn unig y defnyddir y manylion personol a gesglir isod ac fe'u cedwir ar ffeil am chwe mis. Ni chânt eu defnyddio i unrhyw ddiben arall, na'u trosglwyddo i na'i rhannu ag unrhyw gwmni/mudiad arall. Os oes problem ynghylch cadw'r wybodaeth, anfonwch ebost neu ysgrifenwch at Cydlynydd Dysgu a Datblygu ac fe gaiff y manylion personol eu dileu.
Rydym yn deall bod sefyllfaoedd yn codi o dro i dro sy’n golygu na allwch fynychu’r digwyddiad er i chi gofrestru. A fyddech mor garedig â chydweithio yn y ffordd ganlynol os gwelwch yn dda?
- Gwneir pob ymdrech gan y tiwtor sydd yn trefnu i sicrhau presennoldeb;
- Os ydych methu â bod yn bresennol, rhowch wybod i ni cyn gynted ag y bo modd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â chofrestru, cysylltwch â Gweinyddydd RhFC, (ffôn 01792 513435, ffacs 01792 295851, e-bost j.f.macdonald@abertawe.ac.uk )
SICRHEWCH EICH BOD WEDI LLENWI'R RHANNAU PERTHNASOL O'R FFURFLEN GOFRESTRU UCHOD YN GYWIR CYN I CHI GLICIO AR 'Anfon'