TGCh Gwyrdd
Pa mor werdd oedd fy fideogynhadledd?
Cyfeirir yn gyson at nodweddion ‘gwyrdd’ fideo-gynadledda - ond pa mor werdd yw e mewn gwirionedd? Faint o egni sydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod cynhyrchu a gosod yr offer...wrth ei gefnogi a’i warediad terfynol? A faint o drydan sydd yn cael ei ddefnyddio gan stiwdio llawn offer pan y’i defnyddir? Drwy ystyried y ffactorau hyn, faint o arbed teithio sydd angen i greu gostyngiad net o allyriadau nwyon ty gwydr?
Gall fideo-gynadledda gymryd lle pob cyfarfod sydd yn cynnwys teithio, neu dim ond rhai ohonynt? Sut y penderfynir pa gyfarfodydd sydd yn gweddu orau i’r dechnoleg hon?
Er mwyn helpu ateb rhai o’r cwestiynau hyn, mae’r prosiect ymchwil hwn yn edrych ar faint o drydan y defnyddir mewn stiwdios ac offer fideo-gynadledda, a faint o ynni a arbedir gan gwrdd drwy fideogynhadledd yn lle.
Rydym yn edrych ar gyfarfodydd sydd yn cymryd lle yn Gymru er mewn deall yr arbedion teithio a gwnaethpwyd a sut mae hyn wedi helpu lleihau allyriadau carbon.
Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cyfarfodydd a gynhelir heb dechnoleg er mwyn deall y mathau o ddigwyddiad a chynhelir yn y modd hwn, a’r rhwystrau posibl yn erbyn defnyddio fideo-gynadledda.
Ariannir y prosiect gan Gydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) fel rhan o Brosiect Gwyrdd TGCh. Ceir fanylion y cynnig gwreiddiol yno.
Blog: greenvideoconference.jiscinvolve.org/
E-bost: greenict@wvn.ac.uk
Ffôn: 0300 6880688

