See and Share
Lawrlwytho meddalwedd See and Share
I ddefnyddio'r gwasanaeth, bydd angen lawrlwytho a rhedeg meddalwedd Tandberg See and Share trwy Rwydwaith Fideo Cymru.
Cyn ei lawrlwytho, argymhellwn eich bod yn ystyried y materion o breifatrwydd a diogelwch posibl hyn:
- Os ydych yn dewis rhannu cyfrifiadur trwy See and Share, bydd y defnyddwyr eraill yn gallu rheoli eich cyfrifiadur o bell gyda'r un hawliau a'r defnyddiwr go iawn.
- Ni ddylid defnyddio'r feddalwedd ar gyfrifiadur sydd â gwybodaeth gyfrinachol. sensitif neu bersonol arno.
- Dylai'r defnyddiwr sicrhau bod y feddalwedd yn cael ei gau ar ddiwedd pob sesiwn i sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth sy ar y cyfrifiadur yn cael ei rhannu yn anfwriadol.
- Dylai'r person sy'n creu'r gynhadledd sicrhau ei b/fod yn gosod cyfrinach ar gyfer y gynhadledd er mwyn sicrhau mai dim ond y bobl o'u dewis sy'n cael mynediad i'r gynhadledd.
Ceir canllaw llawn ar See and Share trwy glicio ar Canllaw SeeandShare
Telerau ac Amodau a’r gyfer Defnyddio’r Gwasanaeth:
-
Defnyddwyr awdurdodedig yn unig. Os ydych chi’n ansicr a oes gennych awdurdod i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ai peidio, cysylltwch â Chanolfan Gymorth RHFD ar 0300 6880688.
-
Bwriad y gwasanaeth yw caniatáu i ddefnyddwyr ymhob safle sy’n rhan o fideogynhadledd RHFC rannu bwrdd gwaith y cyfrifiadur. Wrth rannu cyfrifiadur trwy’r gwasanaeth hwn gall defnyddwyr eraill y gwasanaeth reoli’r cyfrifiadur o bell gyda holl freintiau’r defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi; bydd unrhyw weithred yn cael ei phriodoli i’r defnyddiwr hwnnw.
-
Dylai unrhyw un sy’n cynnal cynhadledd sicrhau fod cyfrinair cynhadledd unigol yn cael ei osod a’i rannu trwy gyfrwng y fideogynhadledd er mwyn atal unrhywun heb awdurdod, nad yw’n cymryd rhan yn y gynhadledd, i weld cynnwys y cyfrifiadur.
-
Dylai’r defnyddwyr sicrhau fod y meddalwedd See&Share yn cael ei gau ar ddiwedd y sesiwn i sicrhau na ellir rhannu cynnwys y cyfrifiadur yn anfwriadol.
-
Ni ddylid defnyddio’r system ar gyfrifiaduron sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol, sensitif neu bersonol neu gyfrifiadur sydd â hawl mynediad at wybodaeth o’r fath.
- Mae unrhyw berson sy’n defnyddio’r system hon yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain; ni ellir dal JANET(UK) na RHFC yn gyfrifol am ei defnydd.
Rhaid gytuno i delerau ac amodau ar gyfer y defnydd o See and Share cyn lawrlwytho a defnyddio'r feddalwedd:
Rwy'n Cytuno - Ni chytunaf

