Polycom yn cynnig fideogynadledda i’r iPad ac i Android

Polycom yn cynnig fideogynadledda i’r iPad ac i Android

 

Polycom yn cynnig fideogynadledda i’r iPad ac i Android

 

Mae Polycom wedi cyflwyno’i opsiynau fideogynadledda cyntaf ar gyfer yr Apple iPAD a dyfeisiau tabled Android. Polycom yw’r cyntaf o’r ddau gwmni mawr yn y farchnad i wneud hyn.  Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer protocolau SIP a H.323 ac mae ganddi nodweddion ychwanegol yn arbennig i rai sy’n defnyddio Polycom CMA fel borthgeidwad (gatekeeper).

 

Cafodd y rhaglen ei phrofi ar iPAD2 a thabled Motorola Xoom, ac roedd yn ddigon effeithiol. Ni chwblhawyd gwerthusiad ffurfiol ohoni, felly mae’n amhosibl cynnig manylion mwy manwl am ein profiadau heblaw am arbrofion anffurfiol sy’n dangos bod ‘RealPresence Mobile’ yn gweithio.

 

Cofrestrwyd y tabledi ar borthgeidwad H.323 a hefyd cofrestrydd SIP. Roedd yn bosibl gwneud galwadau gan ddefnyddio rhif E.164 neu URI. Roedd ansawdd y galwadau yn amrywio gan fod yr arbrofion byr wedi’u gwneud drwy rwydwaith diwifr llyfrgell sy’n cael ei ddefnyddio’n drwm gan fyfyrwyr. Dim ond yn ddiwifr gall ddyfeisiau tabled weithio fel arfer felly nid yw’n bosibl eu cysylltu â LAN er mwyn cael profiad mwy dibynadwy.

 

Mae’n ansicr p’un ai all rhaglen ‘RealPresence Mobile’ gael ei hystyried yn ddigonol ar ei phen ei hun ar gyfer fideogynadledda gan nad yw nifer o’r nodweddion uwch, neu hyd yn oed y nodweddion arferol ar gael os nad yw’n cael ei defnyddio drwy isadeiledd Polycom CMS.

 

Er hyn, i’r rhai sydd â iPAD neu dabled Android yn barod, bydd y fersiwn hyn, sy’n rhad ac am ddim, yn ychwanegiad defnyddiol sy’n debygol o wella wrth iddynt ei ddatblygu.

 

Gellir gosod y rhaglen Polycom RealPresence ar eich dyfais drwy fynd i’r siop rhaglenni (App Store) neu’r farchnad Android, yn ôl eich dyfais. Ar hyn o bryd, dim ond y dyfeisiau canlynol sy’n gallu ei defnyddio:

 

  • Apple IPad 2 (MC773ZP, MC769CH).
  • Motorola Xoom (MZ600, MZ601, MZ603, MZ604, MZ605, MZ60).
  • Samsung Galaxy Tab (10.1 modfedd).

Ceir mwy o wybodaeth am ‘RealPresence Mobile’ ar wefan Polycom: (http://www.polycom.com/products/hd_telepresence_video/realpresence_mobile/index.html).

 

Y cam naturiol nesaf ar gyfer y fath hon o raglen fyddai ei ehangu ar gyfer dyfeisiau megis yr Apple IPhone a ffonau symudol Android sydd â chamera ar y blaen. Bydd hi’n ddiddorol i weld sut bydd adran Telepresence Cisco (TANDBERG gynt) yn ymateb i ‘Polycom ‘RealPresence Mobile’’ gan nad oes ganddynt gynnig tebyg.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newyddion hyn, cysylltwch ag Aled Morris, Cydlynydd y Tîm Cefnogi  (http://www.wvn.ac.uk/cy/manylioncyswllt/timcefnogi/ ).