Newyddion JANET: O berfeddion Borneo

Arbennigwyr o'r Natural History Museum yn defnyddio fideogynadledda i rannu gwybodaeth am eu gwaith ymchwil tramor gyda disgyblion yn y DU.

Cyhoeddwyd erthygl ddiddorol ar ‘JANET News’ am sut y defnyddir fideogynadledda i oresgyn pellterau mawr. Mae tîm o arbennigwyr o’r amgueddfa ar alldaith i chwilio am ffosiliau ym Morneo. Ar yr un pryd, mae’r arbennigwyr wedi bod yn gweithio gyda disgyblion ar ochr arall y byd drwy fideogynhadledd.  

Ceir yr erthygl lawn (yn Saesneg) ar safle newyddion JANET: http://www.ja.net/janetnews/2011/03/22/from-the-wilds-of-borneo/