Huw Edwards o dîm newyddion y BBC yn ymweld â RhFC

Ar ddydd Iau 17eg o Fawrth, bydd Huw Edwards o’r BBC yn ymweld â RhFC i ar gyfer dau ddigwyddiad.

Yn gyntaf, fe fydd yn cymryd rhan yn y fideogynhadledd olaf mewn cyfres a drefnwyd ar y cyd rhwng Rhwydwaith Fideo Cymru a BBC Cymru ar gyfer Bwletin Ysgol y BBC. Caiff cyfweliad gyda Siân Lloyd o BBC Wales Today a sesiwn holi ac ateb gyda disgyblion o ysgolion ar draws Cymru o oed 11 i 14. Bydd y disgyblion yn ei holi am baratoi ac ysgrifennu straeon ar gyfer y cyfryngau. Bydd tua 250 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad.

Bydd y fideogynhadledd am hanner dydd trwy gyfrwng y Gymraeg gyda disgyblion o Ysgol Y Berwyn; Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri; Ysgol Bro Myrddin; Ysgol Gyfun Bryntawe, Abertawe; Ysgol David Hughes, Ynys Môn; Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda; Ysgol Glan Clwyd, St Asaph; Ysgol Gyfun Gwyr, Abertawe; Ysgol Plasmawr, Caerdydd ; Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn; ac Ysgol Gyfun Gwynllyw, Torfaen.

Bydd y fideogynhadledd am 1.30 yn Saesneg gyda disgyblion o Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri; Brynmawr Foundation School; Builth Wells High School; Ysgol David Hughes, Ynys Mon; Ysgol Llanfyllin; ac Ysgol Y Strade, Llanelli.
Wedyn, am 3 o’r gloch, bydd Huw Edwards yn cwrdd â chyfarwyddwr newydd Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, ac yn dadorchuddio cerdd Tudur Hallan yng nghaffi’r Llyfrgell. Bydd hefyd yn cyflwyno gwobr i enillydd cystadleuaeth ysgrifennu greadigol a drefnwyd gan yr Academi. Bydd yr Is-ganghellor ac eraill hefyd yn bresennol.
Mae’r gerdd a ddadorchuddir yn rhan o gerdd fuddugol Tudur Hallam Eisteddfod 2010 a enillodd y gadair ac y mae’n deyrnged i Hywel Teifi Edwards - sef tad Huw Edwards - a oedd yn athro’r Gymraeg yn Abertawe ac yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg <http://en.wikipedia.org/wiki/Hywel_Teifi_Edwards>