A oes gennych enghraifft arbennig o'ch defnydd o fideogynadledda

Gwobrau Fideogynadledda 2011

Gwobrau Fideogynadledda. Rhowch ysbrydoliaeth i eraill drwy eich defnydd o fideogynadledda. Oes oes gennych enghraifft ddiddorol neu greadigol o'ch defnydd o fideogynadledda, beth am roi cynnig am wobrau fideo-gynadledda? Y dyddiad cau yw 9 Tachwedd 2011.

A ydych wedi gwneud rhywbeth diddorol gyda fideogynadledda dros y flwyddyn ddiwethaf a all ysbrydoli eraill? Dwedwch wrthym amdano, a gwnewch gais am Wobrau Grwp Defnyddwyr Fideogynadledda Janet!

Nod y gwobrau yw:

  •     Dathlu defnydd eang o fideogynadledda ym myd addysg.
  •     Uwcholeuo effaith fideogynadledda ar ddysgu ac addysgu.
  •     Codi ymwybyddiaeth o'r manteision ychwanegol mae fideogynadledda yn cynnig yng nghyd-destun addysg.


Dyma'r categorïau gwahanol ar gyfer y gwobrau:

    Cynradd/Babanod/Iau
    Uwchradd
    6ed Dosbarth/Ysgolion Arbennig
    Sector Ddiwylliannol / Darparwr Cynnwys

Y dyddiad cau yw 9fed Tachwedd 2011 - felly peidiwch ag oedi! Mae'r gwobrau yn agored i ymgeiswyr o fewn y DU yn unig, ac fe fydd panel o feirniaid o fyd addysg yn dewis yr enillwyr. Nodwch: ni chynigir unrhyw wobr ariannol. Am fwy o wybodaeth ewch i:http://www.ja.net/emailers/vc-usergroup/vc-usergroup.html