Newyddion Diweddar
- Newyddion
- Helpwch ni i ddeall mwy am fanteision fideogynadledda
- Polycom yn cynnig fideogynadledda i’r iPad ac i Android
- Gwobrau Fideogynadledda 2011
- Cofrestrwch nawr -JANET VC User Group
- V Factor
- Newyddion JANET: O berfeddion Borneo
- Diweddariad i Wasanaeth Archebu JVCS
- Huw Edwards o dîm newyddion y BBC yn ymweld â RhFC
- Codio Fideo Digenadwy
Diweddariad i Wasanaeth Archebu JVCS
Mae diweddariad i Wasanaeth Archebu JVCS yn cynnig nodweddion defnyddiol newydd ar gyfer rheoli eich fideogynhadledd yn fyw.
Mae tudalen rheoli cynhadledd Gwasanaeth Archebu Fideogynhadledd JANET wedi’i diweddaru er mwyn cynnig nodweddion defnyddiol newydd. Mae hi wedi bod yn bosibl, ers sawl blwyddyn bellach, i drefnwyr fideogynadleddau reoli’r gynhadledd. Roedd yr opsiynau gwreiddiol yn cynnwys cysylltu â datgysylltu stiwdio, newid gosodiad y llun, neu newid lefel y sain yn fyw ar y wefan. Mae’r nodweddion ychwanegol mae’r diweddariad yn cynnig yn debygol o wella’r modd yr ydym yn cefnogi eich defnydd o fideo-gynadledda.
Mae’r nodweddion newydd yn cynnwys:
- Yr opsiwn i ddirprwyo rheolaeth y gynhadledd i ddefnyddwyr eraill
- Mân-lun byw o bob safle sydd yn rhan o’r fideogynhadledd.
- Yr opsiwn i anfon neges i bob stiwdio a ddangosir ar sgrin pob safle y dewiswyd i dderbyn y neges.
- Yr opsiwn i orffen recordio’r gynhadledd (os ydych yn ei recordio drwy system recordio JVCS)
- Yr opsiwn i ychwanegu safleoedd eraill i’r gynhadledd, a all fod yn westai ar y ffôn (mae’n bosibl bydd angen cymorth gweithredwyr JVCS ar gyfer yr opsiwn hwn)
Bydd y gwelliannau hyn yn cynnig gwasanaeth mwy hyblyg i’r defnyddiwr yn ystod fideogynadleddau. Bydd modd datrys unrhyw broblemau neu unrhyw ofynion sydd yn codi yn ystod eich fideogynhadledd yn gyflymach nag oedd yn bosibl yn y gorffennol. I weld enghraifft o’r rhyngwyneb rheoli newydd, ewch i safle newyddion JANET: (http://www.ja.net/janetnews/2011/05/19/booking-service-upgrades-enhance-use-of-janet-videoconferencing/).
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am yr eitem newyddion hon, cysylltwch ag Aled Morris, Cydlynydd y Tîm Cefnogi (http://www.wvn.ac.uk/cy/manylioncyswllt/timcefnogi/).

