Newyddion Diweddar
- Newyddion
- Helpwch ni i ddeall mwy am fanteision fideogynadledda
- Polycom yn cynnig fideogynadledda i’r iPad ac i Android
- Gwobrau Fideogynadledda 2011
- Cofrestrwch nawr -JANET VC User Group
- V Factor
- Newyddion JANET: O berfeddion Borneo
- Diweddariad i Wasanaeth Archebu JVCS
- Huw Edwards o dîm newyddion y BBC yn ymweld â RhFC
- Codio Fideo Digenadwy
Codio Fideo Digenadwy
Cafodd RhFC arddangosiad o dechnoleg fideo newydd, sef Codio Fideo Digenadwy (Scalable Video Coding - SVC) sydd yn cynnig lleihau effaith colli pecynnau (packet loss) ar ansawdd y fideo yn ystod fideogynhadledd.
Mae SVC yn rhan o safon H.264 ac mae’n gweithio drwy greu haenau fideo ychwanegol gan y CODEC yn ystod yr alwad . Os collir pecynnau yn ystod yr alwad bydd yr SVC yn defnyddio’r haenau ychwanegol i greu rhan o’r ffrâm fideo sydd wedi’i cholli yn hytrach na gadael i ansawdd y llun waethygu a phicseleiddio. Defnyddia SVC lled band yn fwy i gymharu â galwad cyffredinol - hyd at 20% mae’n debyg. Gwelais enghraifft o SVC ar waith gan Radvision a Vidyo ac roedd y canlyniad yn galonogol. Mae’n ymddangos ei fod yn gwneud yn union beth y’i dyluniwyd i wneud. Pan fo pecynnau yn cael eu colli, mae’n ymddangos fel saib bychan yn y fideo a chynhelir yr eglurder heb unrhyw effaith ar y llun.
Os ydych yn gyfarwydd â fideogynadledda drwy Rwydwaith Fideo Cymru, rydych yn gyfarwydd â gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel ac mae’n bosibl byddai’r saib bychan sydd yn cuddio’r faith fod pecynnau yn cael eu colli yn amlwg ac yn amharu ar eich sesiwn. Serch hynny, gall SVC weithio’n dda mewn rhwydwaith sydd yn arfer colli pecynnau yn aml. Er enghraifft, wrth gynnal fideogynhadledd o gartref lle bydd gennych efallai lled band digonol ar gyfer galwad fideogynhadledd, ond lle nad ydych yn gallu dibynnu ar y rhwydwaith bydd yn delio a’r alwad. Rwy’n credu bydd pobl yn hapusach i gynnal fideogynhadledd lle ceir rhai seibiau bychain yn hytrach na delio a llun sydd wedi’i picseleiddio am fwyafrif yr alwad.
Os oes diddordeb gennych mewn gweld enghraifft o sut all SVC weithio yn ymarferol, ewch i wefan Radvision (<http://www.radvision.com/Visual-Communications/Video-Communications-Technology/Scalable-Video-Coding/>) lle ceir arddangosiad fideo defnyddiol iawn sydd yn eich galluogi i ddewis lefel y pecynnau a gollir a gweld cymhariaeth rhwng defnyddio SVC ai peidio. Dewiswch 10% neu mwy i weld yn glir sut all weithio.

